WS-30C(6)-007 – Rheoliadau Cynhyrchu Organig (Diwygio) 2022

Cefndir

Gwnaed y Rheoliadau hyn gan Lywodraeth y DU o dan Erthyglau 22(3) a 38b(8) o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 834/2007 ar gynhyrchu organig a labelu cynhyrchion organig.

Crynodeb

Diben y Rheoliadau hyn yw ymestyn y cyfnod y caniateir  randdirymiadau ar gyfer defnyddio cywennod anorganig (ieir ifanc) a gwm gellan anorganig ym maes cynhyrchu organig.

Daeth y rhanddirymiad ar gyfer cywennod i ben ar 31 Rhagfyr 2020, a daeth y rhanddirymiad ar gyfer gwm gellan i ben ar 31 Rhagfyr 2021. Gan nad oes cyflenwad digonol o gywennod organig a gwm gellan ar gael ar hyn o bryd yn y farchnad ym Mhrydain Fawr, mae’r Rheoliadau hyn yn ymestyn y ddau randdirymiad tan 31 Rhagfyr 2022. Bydd hyn yn caniatáu i gynhyrchu organig barhau yn ddi-dor tra bod y farchnad yn datblygu.

Datganiad gan Lywodraeth Cymru

Mae’r Cynghorwyr Cyfreithiol yn cytuno â’r datganiad a osodwyd gan Lywodraeth Cymru dyddiedig 31 Mawrth 2022 ynghylch effaith y Rheoliadau hyn.

Cytundeb Rhynglywodraethol ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael)

Mae'r crynodeb uchod a chynnwys y Memorandwm Esboniadol i'r Rheoliadau hyn yn cadarnhau eu heffaith.

Nid yw'r Cynghorwyr Cyfreithiol o'r farn bod unrhyw faterion arwyddocaol yn codi o dan baragraff 8 o'r Memorandwm ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a Sefydlu Fframweithiau Cyffredin mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

11 Ebrill 2022